Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_300000_07_11_2012&t=0&l=cy
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Richard Clarke, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Eleanor Roy (Ymchwilydd) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Kerry Dearden (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jeff Andrews, Cynghorydd Arbenigol; a Richard Clarke, Pennaeth yr Uned Buddsoddi i Arbed.
2.2 Craffodd yr Aelodau ar waith y Gweinidog.
Camau Gweithredu:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Rhagor o wybodaeth ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu’r saith argymhelliad a ddeilliodd o werthusiad interim Buddsoddi i Arbed.
· Tabl yn amlinellu cyfanswm yr arbedion sydd wedi’u cyflawni gan brosiectau ers rhoi’r rhaglen Buddsoddi i Arbed ar waith.
· Tabl o’r holl ad-daliadau a wnaed gan brosiectau Buddsoddi i Arbed ers rhoi’r rhaglen ar waith.
· Dadansoddiad blynyddol o’r prosiectau a gafodd eu cyhoeddi ym mhob rownd Buddsoddi i Arbed a’r dyfarniadau prosiect a gafodd eu cynnwys ym mhob dyraniad o’r gyllideb.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor y papur ar oblygiadau ariannol y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol a chytunodd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn pwysleisio pwysigrwydd gwybodaeth ariannol gadarn mewn perthynas â deddfwriaeth newydd.
3.2 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 5 a 6.
5. Buddsoddi i Arbed - Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar yr ymchwiliad i Fuddsoddi i Arbed.
6. Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried yr adroddiad drafft ar Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru tan ei gyfarfod ar 21 Tachwedd 2012.